Llysgenhadon - Cymru

Croesi bysedd. A rhagor!

Mae pob un o'r sesiynau gwybodaeth wedi eu cwblhau bellach ac felly byddwn nawr yn dibynnu'n fawr iawn ar gymorth y Llysgenhadon er mwyn i fwriadau da pob un o'r darpar ymgeiswyr gael eu gwireddu.

Diolch yn fawr ichi am yr atebion buddiol a phendant a gawsom i'r holiadur y gwnaethom ei e-bostio atoch. Mae'r adborth o gymorth i dîm GHC, ac edrychwn ymlaen at gefnogir 'gweithgareddau 'rhoi gwybod i bawb' sydd gennych ar fynd. Os oes unrhyw berson yn eich rhwydwaith a allai, yn eich barn chi, elwa ar gael trafodaeth (fer) ynghylch cais posibl, byddwn yn hynod fodlon cael gair â hwy er mwyn ategu'r hyn yr ydych chi wedi ceisio'i wneud i'w hannog i roi cynnig arni eleni.

Yn ystod yr wythnosau olaf hyn byddwn yn gweld yn union a yw ein hymdrechion yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae Cadeirydd y Panel Beirniadu yng Nghymru yn gobeithio y bydd rhagor o enillwyr y DU, yn dod o Gymru eleni. Mae gennym hanesion straeon llwyddiant bendigedig yng Nghymru, serch hynny gallem ragori ar hyn trwy gael ychwaneg o batrymau enghreifftiol er mwyn i'r DU drwyddi draw weld yn union beth y gallwn ei gyflawni.

Bydd y tîm yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf un i chi ynghylch sut mae pethau'n mynd ac edrychwn ymlaen at gael eich cymorth parhaol.

Schaeffler DU Cyfyngedig a Brilliant Minds Training & Development
Defnyddio NLP i Sicrhau Gwelliant y Sefydliad

Yn ôl yn y flwyddyn 2000, roedd dyfodol du yn wynebu Schaeffler (DU) Cyfyngedig yn Llanelli am ei fod yn gorfod cystadlu â gwledydd sydd â chostau llafur isel. Felly roedd yn rhaid cael newid trawiadol ac fe benderfynodd y rheolwyr weddnewid y lle trwy wella sgiliau'r holl weithlu. Roedd hyn yn ymwneud â rhaglen hyfforddiant wedi'i seilio ar Raglennu Niwroieithyddol (NLP) - ac mae'r canlyniadau wedi bod yn llawer gwell na'r disgwyl.

Mae Schaeffler (DU) Cyfyngedig yn gwmni preifat sy'n gwneud cydrannau tra manwl gywir ar gyfer peiriannau yn bennaf i'r diwydiant cerbydau sy'n cynnwys cwsmeriaid fel Ford, Toyota a Fiat. Mae'r ffatri yn Llanelli yn cyflogi 220 o bobl.

Wrth roi cychwyn ar ei fenter newid meddylfryd o'r enw L>C 'mae'r gyfradd Dysgu'n gorfod bod yn uwch na'r gyfradd Newid', fe wyddai'r cwmni y byddai'n rhaid iddo fuddsoddi'n sylweddol mewn hyfforddiant. Roedd arno eisiau manteisio ar addewid yr unigolion yn y cwmni ac felly fe benderfynodd ffurfio partneriaeth gydweithrediadol â Brilliant Minds Training & Development.

Cliciwch yma er mwyn cael rhagor o wybodaeth >

Paul Robertson

Mae Paul wedi ennill cymwysterau mewn Gweinyddu Busnes a bu e'n ymwneud â maes rheoli personél, datblygiad trefniadaethol a hyfforddiant ers 35 mlynedd a rhagor. Ef yw Rheolwr-Gyfarwyddwr MLR, cwmni adnoddau dysgu a sefydlwyd ym 1985.

Trwy gydol ei yrfa, mae Paul wedi gweithio mewn sawl sefydliad gwahanol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddatblygiad trefniadaethol ac arweinyddiaeth. Bu'n ymwneud â GHC ers nifer o flynyddoedd, trwy ddarparu cymorth swyddfa gefn a pharatoi dogfennau GHC, pwyso a mesur ceisiadau, hyfforddiant i aseswyr, cynnal sesiynau gwybodaeth, safoni gwaith panelau beirniadu a threfnu seremonïau rhanbarthol.

Cliciwch yma er mwyn cysylltu â Paul